Newyddion

Bydd Ail Symudiad yn cadw chi mewn cysylltiad ar gigs y dyfodol.


Gigs mor belled eleni:

Bydd Ail Symudiad yn chwarae yn y Diwc of Clarence ar nos Wener, Mawrth 11.


Ail Symudiad CD Newydd ‘Rifiera Gymreig’

Esboniadiadau Byr o’r Caneuon

Rifiera Gymreig (Welsh Riviera). Mae hon yn gân am Aberteifi a’r ardal, yn enwi e.e. Afon Teifi, Poppit, Cardigan Arms a Piggy Lane!

Grwfi Grwfi. Teithio nôl mewn amser i’r 60au - cerdded Stryd Carnaby, swn Motown a CND.

Bywyd heb Farbeciw (Life Without a Barbecue). Rhywun yn symud i Awstralia, grêt ar y dechrau, wedyn cael digon o’r bywyd a symud nôl i’r ynysoedd yma.

Scuttlers. Y Scuttlers oedd ‘youth cult’ cyntaf Prydain, yn Manceinion rhwng tua 1870-1890. Roedd gyda nhw ei gwisg arbennig, a roedd llawer o ymladd rhwng y gangs o ardaloedd Yr Ancoats ac Angel Meadow.

Ras y Broga Melyn (The Race of the Yellow Frog). Fforestydd yn cael ei torri lawr yn yr Amazon yn distriwio natur a’r amgylchedd, yn effeithio ar bopeth o adar i’r brogaid lleiaf – mae’r ras mlaen i’w achub.

Ynys Prydferthwch (Beautiful Island). Cân a’r un thema i ryw raddau a’r un blaenorol. Roedd Rapa Nui (Easter Island) canrifoedd mawr yn ôl yn un ffrwythlon ond adeiladwyd Moai o gerrig gan defynddio y coed i gyd o’r ynys a trwy hynny death y bwyd i ben gan greu newyn i’r trigolion. Bellach mae pobl nôl ar Ynys Prydferthwch.

Anrhegion Annapurna. (Presents from Annapurna). Dduwies bwyd Hinduaidd yw Annapurna, ac yn sawl deml yn India mae miloedd o bobl tlawd yn cael bwyd – anrheg gwerthfawr o Annapurna.

Y Da a’r Cyfiawn Rai. (The Good and the Righteous Ones). Yn syml, cân yn clodfori pobl sy’n gweithio yn wirfoddol i helpu’r llai ffodus. Hefyd meddygon a nyrsus a.y.b.

Trev a’i Dacsi i’r Sêr. (Trev and his Taxi to the Stars). Cân am ffrind i’r band sy’n gyrrwr tacsi yn Llundain a’i brofiad o gael ambell seren yn ei gab. Mae’n sôn hefyd am ei gariad at Tottenham Hotspur F.C.

Tu ôl y Drysau Aur. (Behind the Golden Doors). Mae geiriau’r gân yma gan Jackie Hayden o Iwerddon sy’n ysgrifennu i Hot Press, wedi ei chyfieithu gan Richard Jones ac mae am ddyn gyfoethog iawn sy’n byw mewn castell ond yn ofn mentro allan i’r byd go iawn.


Mae Ail Symudiad yn lansio ei CD/albym newydd 'Rifiera Gymreig' yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon, ar nos Wener, Rhagfyr y 3ydd. Bydd Geraint Lovreen a'i Fand a Vanta yna hefyd. Trefnir gan Dilwyn Llwyd.


Lisa Gwilym, Radio Cymru/C2:

" Roedd hi'n bleser cael darlledu sesiwn newydd sbon gan Ail Symudiad dros yr haf . Fe ennillodd Richard a Wyn Gwobr Cyfranniad Abrennig yng Ngwobrau RAP Radio Cymru 2010, gwobr gwbl haeddianol ar ol degawdau o waith yn y sin roc. Mae eu caneuon bachog, eu geiriau difyr, a'u hiwmor parod wedi dod i'r amlwg yn eu caneuon dros y blynyddoedd, a dwi'n gobeithio y bydd y caneuon yma hefyd yn dod yn glasuron fel Garej Paradwys a Geiriau.
Dwi mor falch cael y cyfle i fod yn rhan o gyfnod newydd i Ail Symudiad, ac mae'r ffaith fod y sesiwn wedi cael ei ddarlledu ar y cyd hefo Richard Rees - sydd wedi bod mor gefnogol i Ail Symudiad a degau o fandiau eraill dros y blynyddoedd - yn ei wneud yn fwy arbennig byth."


MySpace